Hen Destament

Salm 74:6-15 Salmau Cân 1621 (SC)

6. Drylliant i’r llawr gerfiadau honag eirf, gyfeillion erchyll.

7. Llosgasant oll dy eglwys lân,a’i phyrth a thân yn ulw:A halogasant mewn dull dig,y noddfa’y trig dy enw.

8. Awn, gwnawn gyd-artaith meddant hwy,a dinystr drwy yr hollwlad:Llosgasant holl demlau y tir,gwnaethant yn wir eu bwriad.

9. Nid oes un arwydd in’ iw gael,na phrophwyd diwael destyn,Na gwybedydd, a wyr pa hyd,y pery’r byd i’n herbyn.

10. Dywaid di pa hyn (o Dduw Ion)y gwna d’elynion warthrudd?A rydd dy gâs ei gabledd friarnat ti yn dragywydd?

11. Paham y tynni’n ol dy law,(sef dy ddeheulaw berffaith,Hon sydd i’th fonwes) allan tynn,a difa d’elyn diffaith.

12. Cans o’r dechreuad Duw ei hunydyw fy nghun a’m brenin,Fe a wnâ iechwydwriaeth hir,i bawb trwy’r tir a’i dilin.

13. Parthu a wnaethost di â’th nerthy mor, a’i anferth donnau,Gwahenaist, torraist, uwch y don,bennau y blinion ddreigiau.

14. Drylliaist di ben, (nid gorchwyl gwan)y Lefiathan anferth,I’th bobl yn fwyd dodaist efo,wrth dreiglo yn y diserth.

15. Holltaist y graig, tarddodd ffynnon,ac aeth yn afon ffrwd-chwyrn:A diysbyddaist yn dra sychafonydd dyfr-grych cedyrn.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 74