Hen Destament

Salm 74:15-23 Salmau Cân 1621 (SC)

15. Holltaist y graig, tarddodd ffynnon,ac aeth yn afon ffrwd-chwyrn:A diysbyddaist yn dra sychafonydd dyfr-grych cedyrn.

16. Di biau’r dydd, di biau’r nos,golau a haul-dlos geinwedd:

17. Seiliaist y ddaiar, lluniaist hâf:a gauaf o’th ogonedd.

18. Fy Arglwydd bellach cofia hyn,i’r gelyn gynt dy gablu,Ac i’r ynfydion roi drwg fri,a’th enw di dirmygu.

19. Oes dy durtur na ddod a’r gawdddan nawdd anifail creulon,Na âd o’th gof (o Arglwydd da)dy dyrfa, y rhai tlodion.

20. Duw, edrych ar dy gyfammod,a gwyl waelod y gwledydd:Mae ym-mhob man drigfa dyn traws,mae honynt liaws efrydd.

21. Na ddychweled y truan tlawdmewn difrawd ac mewn gwradwydd,Y dyn anghenus, llesg, a gwan,a ddatcan dy enw: Arglwydd.

22. Cyfod, dadlau dy ddadl (o Dduw)dy enw yw yn dragywydd:Coffa gabledd, yr hon drwy’r byda gayt gan ynfyd beunydd.

23. Duw: nac anghofia lais a sond’elynion y cenhedloedd,Eu swn, a’i rhodres, a’i dadwrdda ddring i gwrdd â’r nefoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 74