Hen Destament

Salm 71:7-20 Salmau Cân 1621 (SC)

7. I lawer dyn bum anferth iawn,ti yw fy nerthlawn lywydd.

8. Fy safn bydd lawn o’th fawl gan dant,ac o’th ogoniant beunydd.

9. Nac esgeulusa fi na’m braintyn amser henaint truan.Er pallu’r nerth, na wrthod fi,Duw edrych di ar f’oedran.

10. Medd fy nghaseion r’wyf yn wann,hwy a ddisgwilian f’anaf:Ymgynghorasant yn ddi synn,gan ddwedyd hyn am danaf:

11. Duw a’i gwrthododd, (meddant hwy)erlidiwch fwyfwy bellach:A deliwch ef, nid oes drwy’r bydyr un a’i gweryd baiach.

12. Er hyn o frad, (Duw) bydd di well,na ddos ymhell oddiwrthy.Fy Nuw prysura er fy mhorth,ac anfon gymmorth ymmy.

13. Angau gwarthus pob rhai a gânta wrthwynebant f’einioes,Gwradwydd a gwarth iddynt a drig,a gynnig i mi ddrygloes.

14. Fy ngobaith innau a saif bythyn ddilyth a safadwy,Ymddiried ynot (Dduw) a wnaf,ac a’th foliannaf fwyfwy.

15. Dy iechydwriaeth sy i’m genau,yr hwn ni thau funudyn:A’th gyfiawnder, ac ni wn iddim o’r rhifedi arnyn.

16. Ynghadernid yr Arglwydd Dduw,tra fwy fi byw y credaf:A’th gyfiownder di hyd y brig,yn unig hyn a gofiaf.

17. Duw, di a ddysgaist i mi hyn,do, er yn blentyn bychan:A hyd yn hyn r’wyf yn parhaui osod d’wrthiau allan.

18. O Duw na wrthod fi yn hen,a’m pen, a’m gen yn llwydo,Nes i’m ddangos i’r rhai sy’n oldy wrthiau nerthol etto.

19. Dy gyfiownder yn uchel aeth,yr hwn a wnaeth bob mowredd,Duw pwy y sydd debyg i ti?nid ydym ni ond gwagedd.

20. Duw gwnaethost di ym’ fyw yn brudd,a gweled cystudd mynych,Troist fi i fyw, dychwelaist fi,drwy’ nghodi o’r feddrod-rych.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 71