Hen Destament

Salm 71:1-8 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Mi a’mddiriedais ynod (Ner)na’m gwradwydder byth bythoedd,

2. Duw o’th gyfiownder gwared fi,a chlyw fy nghri hyd nefoedd.

3. Duw bydd yn graig o nerth i mii gyrchu atti’n wastad:A phâr fy nghadw i yn well,ti yw fy nghastell caead.

4. Duw gwared fi o law’r trahaus,a’r gwr trofaus, a’r trowsddyn.

5. Ynot ti, Dduw bu ’ngoglud maith,a’m gobaith er yn ronyn.

6. O groth fy mam y tynnaist fi,rhoist ynof egni etto,I tithau fyth, am hyn o hawl,y canaf fawl heb peidio.

7. I lawer dyn bum anferth iawn,ti yw fy nerthlawn lywydd.

8. Fy safn bydd lawn o’th fawl gan dant,ac o’th ogoniant beunydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 71