Hen Destament

Salm 69:8-23 Salmau Cân 1621 (SC)

8. I bobl dieithr myfi, (gwn pa’m)i blant fy mam fel estron.

9. A’m fod fy serch a’m sel i’th dyi’m hysu hyd fy nghalon.Cans cabl y rhai a’th gablant diar f’ucha i mae’n disgyn.

10. Fy nagrau cystudd, a’m hun-pryd,ynt warth i gyd i’m herbyn.

11. A phan wisgwn i liain sach,bum ddiystyrach lawer,

12. Bum chwedyl drws i gryf a thlawd,i’r meddw yn wawd iw harfer.

13. Ond f’Arglwydd Dduw, gwnaf attad tify ngweddi yn amserol.O gwrando fi i’th wirfawr hedd,ac i’th wirionedd grasol.

14. Duw, gwared fi, gwna fi’n rhyddo’r dom y sydd i’m suddo,Sef caseion, dyfroedd dyfnion,a mi nid ofnaf gyffro.

15. Na lifed dwfr drosof yn ffrwd,na’m llynced amrwd ddyfnder,Na chaued pydew arnaf chwaith,mo’i safn diffaith ysceler.

16. Gwrando fi bellach Arglwydd Dduw,cans da yw dy drugaredd,Yn amlder dy dosturi mawredrych i lawr rhag trowsedd.

17. O’m cyfyngder oddiwrth dy wâsna chudd mo râs dy wyneb,Rwyf yn gweddio yn fy ngloes,Duw bryssia moes y’m atteb.

18. Neshâ at f’enaid Arglwydd mau,er fy ryddhau a’m gwared,Moes ymddiffyn rhag cael o hongan fy ngelynion niwed,

19. Duw di a weli o bob parthfy ngwardwydd, gwarth, a’m cwilyddO herwydd rhodio gar dy fronmae fy ngelynion beunydd.

20. Mewn gorthrwn ofid yr wyf fia gwarth yn torri’ nghalon:Disgwyl cymhorthwyr, ni ddoe neb,ni chawn gysurdeb tirion.

21. Bustl a roesan yn fwyd i mi,finegr i dorri syched.

22. Eu bwrdd boed iddynt fagl aflwydd,a’i llwydd yn dramgwydd bydded.

23. Ar eu llygaid dallineb doed,iw llwynau boed crynfeydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 69