Hen Destament

Salm 69:7-14 Salmau Cân 1621 (SC)

7. (Duw Israel) sef er dy fwyn,yr wyf yn dwyn gwarthrudd-deb:A thrwy gywilydd ymarhois,mewn chwys y tois fy wyneb.

8. I bobl dieithr myfi, (gwn pa’m)i blant fy mam fel estron.

9. A’m fod fy serch a’m sel i’th dyi’m hysu hyd fy nghalon.Cans cabl y rhai a’th gablant diar f’ucha i mae’n disgyn.

10. Fy nagrau cystudd, a’m hun-pryd,ynt warth i gyd i’m herbyn.

11. A phan wisgwn i liain sach,bum ddiystyrach lawer,

12. Bum chwedyl drws i gryf a thlawd,i’r meddw yn wawd iw harfer.

13. Ond f’Arglwydd Dduw, gwnaf attad tify ngweddi yn amserol.O gwrando fi i’th wirfawr hedd,ac i’th wirionedd grasol.

14. Duw, gwared fi, gwna fi’n rhyddo’r dom y sydd i’m suddo,Sef caseion, dyfroedd dyfnion,a mi nid ofnaf gyffro.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 69