26. Cans yr hwn a darawsyd timae’ rhei’ni yn ei erlyd:A’r doluriau y sydd o’th friwy maent iw hedliw hefyd.
27. Dod gamwedd ar eu camwedd hwy,na ddont mwy i’th gyfiownder
28. Ymaith o lyfr y bywyd llawn,o fysg y cyfiawn tynner.
29. Finnau pan fwyf odidus wan,a phan fwyf druan hefyd,Dy iechydwriaeth di (o Dduw)eilchwyl i fyw a’m cyfyd.
30. Moliannaf d’enw Dduw ar gân,fal dyma f’amcan innau.
31. A hyn fydd gwell gan Dduw deyrnnag ych â chyrn a charnau.
32. A phob truan, pan weler hyn,a ennyn o lawenydd:A’ch calon chwi sy’n ceisio Duwcyfyd i fyw o newydd.
33. Duw gwrendy dlawd,ni ddirmyg lef oi gaethwas ef sy fethiant.