Hen Destament

Salm 69:25-36 Salmau Cân 1621 (SC)

25. Boed eu palasau’n wâg heb wedd,ac anghyfannedd iddyn,Na allo neb na dydd na nosmo’r aros yn eu tyddyn.

26. Cans yr hwn a darawsyd timae’ rhei’ni yn ei erlyd:A’r doluriau y sydd o’th friwy maent iw hedliw hefyd.

27. Dod gamwedd ar eu camwedd hwy,na ddont mwy i’th gyfiownder

28. Ymaith o lyfr y bywyd llawn,o fysg y cyfiawn tynner.

29. Finnau pan fwyf odidus wan,a phan fwyf druan hefyd,Dy iechydwriaeth di (o Dduw)eilchwyl i fyw a’m cyfyd.

30. Moliannaf d’enw Dduw ar gân,fal dyma f’amcan innau.

31. A hyn fydd gwell gan Dduw deyrnnag ych â chyrn a charnau.

32. A phob truan, pan weler hyn,a ennyn o lawenydd:A’ch calon chwi sy’n ceisio Duwcyfyd i fyw o newydd.

33. Duw gwrendy dlawd,ni ddirmyg lef oi gaethwas ef sy fethiant.

34. Nef, a daiar, a mor, a hyna ymlysg ynthyn, moliant.

35. Cans Duw a gedw Sion deg,a threfna’n chwaneg Juda:Adeilada ddinesydd hon,i ddynion yn breswylfa.

36. Fe ei weision ef a’i hil,a’i heppil, a’i meddiannant:A’r rhai a hoffa ei enw fo,yn honno a breswyliant.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 69