Hen Destament

Salm 69:23-34 Salmau Cân 1621 (SC)

23. Ar eu llygaid dallineb doed,iw llwynau boed crynfeydd.

24. Tywallt arnynt dy ddig a’th lid,doed iddynt ofid beunyd.

25. Boed eu palasau’n wâg heb wedd,ac anghyfannedd iddyn,Na allo neb na dydd na nosmo’r aros yn eu tyddyn.

26. Cans yr hwn a darawsyd timae’ rhei’ni yn ei erlyd:A’r doluriau y sydd o’th friwy maent iw hedliw hefyd.

27. Dod gamwedd ar eu camwedd hwy,na ddont mwy i’th gyfiownder

28. Ymaith o lyfr y bywyd llawn,o fysg y cyfiawn tynner.

29. Finnau pan fwyf odidus wan,a phan fwyf druan hefyd,Dy iechydwriaeth di (o Dduw)eilchwyl i fyw a’m cyfyd.

30. Moliannaf d’enw Dduw ar gân,fal dyma f’amcan innau.

31. A hyn fydd gwell gan Dduw deyrnnag ych â chyrn a charnau.

32. A phob truan, pan weler hyn,a ennyn o lawenydd:A’ch calon chwi sy’n ceisio Duwcyfyd i fyw o newydd.

33. Duw gwrendy dlawd,ni ddirmyg lef oi gaethwas ef sy fethiant.

34. Nef, a daiar, a mor, a hyna ymlysg ynthyn, moliant.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 69