1. Achub fi Dduw (y gwr a’m gwnaeth)tros f’enaid daeth llif-ddyfr-loes,
2. Yr wyf mewn dyfnder tom ynglyn,heb le i ’mddiffyn f’einioes.O’r dyfnder daethym fal ar fawdd,a’r ffrwd a lifawdd uchod:
3. Sychodd fy ngheg, blinodd fy llais,â’m llygaid pellais ganfod.
4. A hyn wrth ddisgwyl Duw a’i câs,wele fy nghâs yn amlachNâ’r gwalld ar ben fy nghoppa fry,a’r trowsion sy’n gadarnach.Y rhai celwyddog, taerion ynt,rhois iddynt beth ni chefais.