Hen Destament

Salm 69:1-11 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Achub fi Dduw (y gwr a’m gwnaeth)tros f’enaid daeth llif-ddyfr-loes,

2. Yr wyf mewn dyfnder tom ynglyn,heb le i ’mddiffyn f’einioes.O’r dyfnder daethym fal ar fawdd,a’r ffrwd a lifawdd uchod:

3. Sychodd fy ngheg, blinodd fy llais,â’m llygaid pellais ganfod.

4. A hyn wrth ddisgwyl Duw a’i câs,wele fy nghâs yn amlachNâ’r gwalld ar ben fy nghoppa fry,a’r trowsion sy’n gadarnach.Y rhai celwyddog, taerion ynt,rhois iddynt beth ni chefais.

5. Adwaenost (Dduw) f’ynfydrwydd mau,a’m beiau fi ni chuddiais.

6. O’m plegid i dim gwarth ni chânty rhai a goeliant arnad,Na âd (Dduw’r lluoedd) fefl na thraisi’r rhai a ymgais attad.

7. (Duw Israel) sef er dy fwyn,yr wyf yn dwyn gwarthrudd-deb:A thrwy gywilydd ymarhois,mewn chwys y tois fy wyneb.

8. I bobl dieithr myfi, (gwn pa’m)i blant fy mam fel estron.

9. A’m fod fy serch a’m sel i’th dyi’m hysu hyd fy nghalon.Cans cabl y rhai a’th gablant diar f’ucha i mae’n disgyn.

10. Fy nagrau cystudd, a’m hun-pryd,ynt warth i gyd i’m herbyn.

11. A phan wisgwn i liain sach,bum ddiystyrach lawer,

Darllenwch bennod gyflawn Salm 69