Hen Destament

Salm 68:25-30 Salmau Cân 1621 (SC)

25. Y cantorion, aent hwy o’r blaen,cerddorion aen ol ynol,Yna’r gweryfon, beraidd gân,ar tympan yn y canol.

26. Clodforwch Dduw hynny sydd ddaym mhob cyn’lleidfa ddiwael:A chlodforwch yr Arglwydd Ion,chwi sydd o ffynnon Israel.

27. Doed Benjamin y llywydd bach,doed bellach dugiaid Juda,Doed Nephtali, a Zabulon,a’i tywysogion yna.

28. Dy Dduw a drefnodd i ti nerth,a’i law sydd brydferth geidwad,Duw cadarnhâ etto yn faitharnom ni waith dy gariad.

29. Er mwyn Caersalem adail deg,rhydd cedyrn anrheg yty.

30. Difetha dyrfa y gwaywffyn,a’r rhai a fyn ryfely.Dewr fel teirw, nwyfus fel lloe,y rhei’ni a roe yr arian:Delont i’r iawn: tyn nerth a nwy’a gostwng hwy yn fuan.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 68