2. Os chwalu mwg mewn gwynt sy hawdd,os tawdd cwyr wrth eiriasdan,Fel hynny o flaen Duw (yn wir)yr enwir a ddiflannan.
3. Ond llawenycher ger bron Duwy cyfion, iw orfoledd:A'i hyfrydwch hwyntwy a fyddyn llawenydd cyfannedd.
4. Cenwch, a molwch enw Duw,sef hwn yw uwch y nefoeddYn marchogaeth, megis ar farch,iw enw rhowch barch byth bythoedd.
5. A gorfoleddwch gar ei fron,Duw tirion, tâd ymddifaid.Ac i’r gweddwon mae’n farnwr dayn ei bryswylfa gannaid.
6. Duw a wna rai mewn ty’n gytun,ei hun mae’n gollwng gefyn,Ac yn rhoi trigfan mewn tir crâs,i ddynion atcas cyndyn.
7. Pan aethost (Dduw) o flaen dy lu,dy daith a fu drwy ddrysni.