Hen Destament

Salm 68:13-26 Salmau Cân 1621 (SC)

13. Pes ymdroech mewn parddu a llwch,chwi a fyddwch fel y glommen:A’i phlu yn aur ac arian teg,yn hedeg is yr wybren.

14. Hon, pan wasgarodd Duw yn chwyrnbob cedyrn o’i gaseion,Oedd mor ddisgleirwych, ac mor wenn,ac eira’ar ben bryn Salmon.

15. Mynydd Duw (sef Sion) y syddfel Basan fynydd tirion:Mynydd Basan uchel ei gribcyffelib yw i Sion.

16. Chwychwi fynyddoedd cribog pamy bwriwch lam mewn cyffro?Duw ar Seion ei serch a roes,lle myn ef eisoes drigo.

17. Rhif ugain mil o filoedd ywangylion Duw mewn cerbyd:Ynghyssegr Sinai y bu ei wlith,bydd Duw iw plith hwy hefyd.

18. I’r uchelder y derchefaist,a chaethgludaist gaethiwed,Cymraist, dodaist ddoniau, Duw Ion,i ddynion oedd ddiniwed.

19. Bendigaid fyth fo’r Arglwydd mauam ddoniau ei ddaioni.A’i iechydwriaeth i ni’n llwytho berffrwyth ei haelioni.

20. Efe ei hun yw’n Duw ni i gyd,sef Duw ein iechyd helaeth,Drwy’r Arglwydd Dduw cawn yn ddi swrthddiangc oddiwrth farwolaeth.

21. Duw yn ddiammau a dyrr ben,a thalcen ei elynion:A choppa walltog rhai a foyn rhodio mewn drwg creulon.

22. Dygaf fy mhobloedd (meddai ef)hyd adref fel o Basan:A dygaf hwynt iw hol drachefn,fel o’r mor donlefn allan.

23. Fel y gwlychech ditheu dy draedyn llif gwaed dy ddigassau,Ac y llyfo dy gwn heb gely gwaed a ddel o’i briwiau.

24. Gwelodd pawb (o Dduw) dy ystâd,yn dy fynediad sanctaidd,Mynediad fy Nuw frenin fry,fel hyn iw dy casegraidd.

25. Y cantorion, aent hwy o’r blaen,cerddorion aen ol ynol,Yna’r gweryfon, beraidd gân,ar tympan yn y canol.

26. Clodforwch Dduw hynny sydd ddaym mhob cyn’lleidfa ddiwael:A chlodforwch yr Arglwydd Ion,chwi sydd o ffynnon Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 68