5. O dowch, edrychwch ofnus ywgweithredoedd ein Duw cyfion,Ofn ei weithredoedd a rydd ddysgymysg holl feibion dynion.
6. Fo droes y mor coch yn dir sych,ai wyr yn droed-sych drwyddo:A thrwy yr afon: llawen fu,ei bod heb wlychu yno.
7. Ef byth bydd lywydd cadarn gwych,a’i olwg edrych beunyddAr y cenhedloedd drwy’r holl fyd,ni chyfyd rhai anufydd.
8. O bobloedd molwch Dduw ar gais,a moeswch lais ei foliant:
9. Hwn sy’n dal bywyd yn y gwaeda ddeil ein traed na lithrant.
10. O Dduw, profaist a choethaist niun wedd a choethi arian.
11. Yn gaeth y dygaist ni i’th rwyd,ein cyrph a wasgwyd weithian.
12. Aethom drwy ddwfr a thân yn gaeth,bu rai’n marchogaeth arnom:O peraist hyn: ni bu chwaith hir,i ddiwall dir y daethom.