12. Aethom drwy ddwfr a thân yn gaeth,bu rai’n marchogaeth arnom:O peraist hyn: ni bu chwaith hir,i ddiwall dir y daethom.
13. Ac offrwm poeth i’th dy yr âftalaf fy addunedau,
14. Y rhai mewn cyfwng, rhac mwy trais,addewais â’m gwefusau,
15. Poeth ebyrth breision yt a rof,aroglaeth cof cyfammod,Ychen, hyrdd, offrymmu a wnaf,ac etto rhoddaf fychod,
16. O dowch yn nes a gwrandewch chwisy’n ofni Duw tragfythoes,Mi a fynegaf i chwi’n ffraethpa les a wnaeth i’m heinioes.
17. Llefais i arno â’m genau,a’r tafod mau a’i molawdd.
18. Pe troeswn fy nghalon at fai,Duw a’m gwrandawsai’n anawdd.
19. Diau Duw a’m clybu yn hawdd,gwrandawawdd ar fy ngweddi, 20 Bendigaid yw: fo a’m clywawdd,ni throes mo’i nawdd oddiwrthi.