Hen Destament

Salm 66:1-14 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Yn Nuw ymlawenhewch i gyd,yr hollfyd, a datcenwch

2. Ogoniant ei enw hyd y nef,a’i foliant gref a draethwch.

3. Wrth Dduw dwedwch fo bair dy lawi’th elyn oerfraw anfad,Rhag amled yw nerth y llaw honâ dy gaseion danad.

4. Felly’r holl fyd i gyd a’i rhi’i ti a ymostyngant,Canant yt’ fawl, ac ânt hyd lawr,i’th enw mawr y canant.

5. O dowch, edrychwch ofnus ywgweithredoedd ein Duw cyfion,Ofn ei weithredoedd a rydd ddysgymysg holl feibion dynion.

6. Fo droes y mor coch yn dir sych,ai wyr yn droed-sych drwyddo:A thrwy yr afon: llawen fu,ei bod heb wlychu yno.

7. Ef byth bydd lywydd cadarn gwych,a’i olwg edrych beunyddAr y cenhedloedd drwy’r holl fyd,ni chyfyd rhai anufydd.

8. O bobloedd molwch Dduw ar gais,a moeswch lais ei foliant:

9. Hwn sy’n dal bywyd yn y gwaeda ddeil ein traed na lithrant.

10. O Dduw, profaist a choethaist niun wedd a choethi arian.

11. Yn gaeth y dygaist ni i’th rwyd,ein cyrph a wasgwyd weithian.

12. Aethom drwy ddwfr a thân yn gaeth,bu rai’n marchogaeth arnom:O peraist hyn: ni bu chwaith hir,i ddiwall dir y daethom.

13. Ac offrwm poeth i’th dy yr âftalaf fy addunedau,

14. Y rhai mewn cyfwng, rhac mwy trais,addewais â’m gwefusau,

Darllenwch bennod gyflawn Salm 66