Hen Destament

Salm 65:7-13 Salmau Cân 1621 (SC)

7. Hwn a ostega’r mor, a’r don,a rhuad eigion enbyd.

8. A holl breswylwyr eithaf bydsy’n ofni’ gyd d’arwyddion,I ti gan forau a chan hwyr,y canant laswyr ffyddlon.

9. Dyfrhau y ddaiar sech yr wyd,afon Duw llanwyd drosti,Darperaist lifddyfr rhyd ei llawriw thramawr gyfoethogi.

10. Pob rhych yr wyd yn ei ddyfrhau,a’i chwysau’r wyd iw gostwng.A’i rhoi ym mwyd mewn cafod wlith,iw chnwd rhoi fendith deilwng.

11. Coroni’r ydwyd ti fal hyny flwyddyn â’th ddaioni,Y ffordd hyn a’r modd (Duw fy ner)diferaist frasder arni.

12. Ef a ddifera ffrwyth dy serchar bob rhyw lannerch ddyrys,Pob mynydd sych yn uchder gwlâdo ffrwyth dy rad y dengys.

13. Drwy dy fendith y gwastad dira guddir oll â defaid,Crechwennant, canant bawb ynghyd,a’r wlâd ac ŷd ei llonaid.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 65