2. Pawb sydd yn pwyso attad ti,a wrendy weddi dostur,Ac attad ti y daw pob cnawd,er mwyn gollwngdawd llafur.
3. Pethau trowsion, a geiriau mawr,myfi i’r llawr bwriasant,Ond tydi Dduw, rhoi am gamwedddrugaredd a maddeuant.
4. Dy etholedig dedwydd ywcaiff nesnes fyw i’th Babell,Trig i’th gynteddau, ac i’th lys,a’th sanctaidd weddus gangell.
5. Duw’n ceidwad attebi i nio’th ofni i’th gyfiownedd,Holl obaith wyd drwy’r ddaiar hon,a’r mor cynhyrfdon rhyfedd.
6. Hwn a siccrhâ bob uchel frynâ’i wregys yn gadernyd.
7. Hwn a ostega’r mor, a’r don,a rhuad eigion enbyd.
8. A holl breswylwyr eithaf bydsy’n ofni’ gyd d’arwyddion,I ti gan forau a chan hwyr,y canant laswyr ffyddlon.
9. Dyfrhau y ddaiar sech yr wyd,afon Duw llanwyd drosti,Darperaist lifddyfr rhyd ei llawriw thramawr gyfoethogi.