1. Tydi o Dduw yw y Duw mau,mi a geisia’n foreu attad.Y mae fy enaid yn dra sych,a’m cnawd mewn nych amdanad.
2. Mewn lle heb ddwfr, mewn crinder crâsceisiais o’th ras dy weled,Mal i’th welswn yn y Deml gynt,ar helynt nerth gogoned.
3. Cans dy drugaredd (o Dduw byw)llawer gwell yw nâ’r bywyd:A’m gwefusau y rhof yt fawl,a cherdd ogonawl hyfryd.
4. Felly tra fwyf fi fyw y gwnaf,ac felly’th folaf etto,Ac yn dy enw di sydd guy caf dderchafu’ nwylo.
5. Digonir f’enaid fel â mera chyflawn frasder hefyd:A’m genau a gân y moliant tau,â phur wefusau hyfryd.