5. Fy enaid dod (er hyn i gyd)ar Dduw dy fryd yn ddyfal,Ynto gobeithiaf fi er hyn,efo a’m tyn o’m gofal.
6. Sef craig ymddiffyn yw ef ym’,fy’ nhwr, a grym fy mywyd:Am hynny y credaf yn wirna’m mawr ysgogir ennyd.
7. Yn Nuw yn unig mae i gyd,fy iechyd, a’m gogoniant,Fy nghraig yw, a’m cadernid maith,a’m gobaith yn ddilyssiant.
8. Gobeithiwch yntho: gar ei frontywelltwch galon berffaith,Ac ymddiriedwch tra foch byw:a dwedwch, Duw yw’n gobaith.
9. Plant Adda, gwagedd ynt i gyd,plant gwyr sydd hud a gwegi,Gwagach na gwagedd yn eu fawl,mewn mantawl wrth eu codi.
10. Na rowch eich coel ar gam na thrais,rhaid yw i falais drwccio:Os cynnydda cyfoeth y bydna rowch mo’ch goglyd arno.
11. Duw a lefarodd hyn unwaith,mi a glywais ddwywaith hynny,Sef, mai Duw biau’r nerth i gyd,gostyngiad byd, neu fynnu.