2. Duw yw fy nghraig, a’m unig nerth,ac ymadferth fy einioes.Ac am hyn drwy ymddiffyn hirmi ni’m ysgogir eisoes.
3. Ba hyd y mae’n eich bryd barhau,i fwrw eich maglau aflwydd,Lleddir chwi oll: gwthir yn llwyrfel magwyr ar ei gogwydd.
4. Ymgasglent, llunient gelwydd mawr,iw roi i lawr o’i fowredd:Ar eu tafodau rhoi benditha melldith dan ei dannedd.
5. Fy enaid dod (er hyn i gyd)ar Dduw dy fryd yn ddyfal,Ynto gobeithiaf fi er hyn,efo a’m tyn o’m gofal.