Hen Destament

Salm 62:1-12 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Fy unig Dduw ydyw fy mlhaid,mae f’enaid yn ei ddisgwyl,Ohonaw ef, a thrwy ei rymdaw iechyd ym’ o’m hanhwyl.

2. Duw yw fy nghraig, a’m unig nerth,ac ymadferth fy einioes.Ac am hyn drwy ymddiffyn hirmi ni’m ysgogir eisoes.

3. Ba hyd y mae’n eich bryd barhau,i fwrw eich maglau aflwydd,Lleddir chwi oll: gwthir yn llwyrfel magwyr ar ei gogwydd.

4. Ymgasglent, llunient gelwydd mawr,iw roi i lawr o’i fowredd:Ar eu tafodau rhoi benditha melldith dan ei dannedd.

5. Fy enaid dod (er hyn i gyd)ar Dduw dy fryd yn ddyfal,Ynto gobeithiaf fi er hyn,efo a’m tyn o’m gofal.

6. Sef craig ymddiffyn yw ef ym’,fy’ nhwr, a grym fy mywyd:Am hynny y credaf yn wirna’m mawr ysgogir ennyd.

7. Yn Nuw yn unig mae i gyd,fy iechyd, a’m gogoniant,Fy nghraig yw, a’m cadernid maith,a’m gobaith yn ddilyssiant.

8. Gobeithiwch yntho: gar ei frontywelltwch galon berffaith,Ac ymddiriedwch tra foch byw:a dwedwch, Duw yw’n gobaith.

9. Plant Adda, gwagedd ynt i gyd,plant gwyr sydd hud a gwegi,Gwagach na gwagedd yn eu fawl,mewn mantawl wrth eu codi.

10. Na rowch eich coel ar gam na thrais,rhaid yw i falais drwccio:Os cynnydda cyfoeth y bydna rowch mo’ch goglyd arno.

11. Duw a lefarodd hyn unwaith,mi a glywais ddwywaith hynny,Sef, mai Duw biau’r nerth i gyd,gostyngiad byd, neu fynnu.

12. O Arglwydd, ti hefyd a fedddrugaredd a daioni,I bawb dan gwmpas wybren faith,yn ol ei waith y teli.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 62