Hen Destament

Salm 59:1-10 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Fy Nuw gwareda fi rhac brâda rhac twyll fwriad gelyn,Derbyn di drosof rhac y rhaia godai yn fy erbyn.

2. Ac ymddiffyn fi bybyroddiwrth weithredwyr camwedd,Achub fyfi rhac câs y byd,a rhac gwyr gwaedlyd hygledd.

3. Ac wele, maent hwy i’m cynllwyn,amranent ddwyn fy mywyd,Nid ar fy mai yr haeddais hyn,ond tynder gelyn gwaedlyd.

4. Duw rhedent hwy yn barod iawn,a dim ni wnawn iw herbyn.Edrych dithau, fy Arglwydd rhed,a thyred i’m hymddiffyn.

5. Ti Dduw y llu, Duw Israel,o deffro gwael enwiredd,I’r cenhedloedd na âd di’n rhâd,lle y gwnant drwy frâd eu trawsedd.

6. Maent hwy yn arfer gydâ’r hwyr,o’mdroi ar wyr o bobparth:A thrwy y ddinas clywch eu swn,un wedd a’r cwn yn cyfarth.

7. Wele maent a thafodau rhydd,awch cledd a fydd iw genau,Pwy meddant hwy all glywed hyn?ac a wna i’n herbyn ninnau.

8. Ond tydi fy Arglwydd a’m Duw,a’i gwel, ai clyw, a’i gwatwar:Am ben eu gwaith y chwerddi diy cenhedlaethi twyllgar.

9. Ti a attebi ei nerth ef,a’th law gref a’m hamddiffyn

10. Duw a’m rhagflaena innau chwip,caf weled trip i’m gelyn.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 59