7. Todder hwynt fel dwr ar y tir,felly diflennir hwythau:Os mewn bwa rhoesant saeth gron,boed torri hon yn ddrylliau.
8. Boent hwy mor ddiffrwyth, ac mor hawdda malwen dawdd y todder:Neu fel rhai bach ni welai’r byd,o eisau pryd ar amser.
9. Tâl Duw iddynt ffrwythau eu llid,cynt nac y llosgid ffagldan:Tynn hwyntwy ymaith yn dy ddig,cyn twymnai cig mewn crochan.
10. A phan weler y dial hyn,fo chwardd y glanddyn cyfion.Pan fo rhydd iddo olchi eu draedyngwaed yr annuwolion.
11. Yna dywaid dynion fod iawn,a ffrwyth i gyfiawn bobloedd:A bod ein Duw yn farnwr ary ddaiar a’i therfynoedd.