1. Ai’r uniondeb (o bobloedd wych)yr ydych yn ei ddwedyd?A ydych chwi, o blant dynion,yn barnu’r union hefyd?
2. Hyttrach malais sy yn eich bronac ystryw calon dwyllgar:A gwaith eich dwylo trowsder blin,tra foch yn trin y ddaiar.
3. Y rhai annuwiol aent ar gam,o groth eu mam newidient,Ac ar gyfeilorn mynd o’r bru,a chelwydd fu a draethent.
4. Un wedd a gwenwyn y sarph ywy gwenwyn byw sydd ynddyn.Neu’r neidr fyddar yn trofâu,dan gau ei chlustiau cyndyn.
5. Yr hon ni wrendy ddim ar lais,na’r wers a gais y rhinwyr,Nac un gyfaredd ar a wnay cyfarwydda’ o swyn-wyr.
6. Duw, torr eu dannedd yn eu safn,diwreiddia’r llafn o dafod:Duw dryllia’r bonau, a gwna’n donnbob grudd i’r c’nawon llewod.
7. Todder hwynt fel dwr ar y tir,felly diflennir hwythau:Os mewn bwa rhoesant saeth gron,boed torri hon yn ddrylliau.