6. O flaen fy nrhaed y rhoesant rwyd,ac felly’m rhwymwyd weithian:Ar fy ffordd y cloddiasant glawdd,i’r hwn yn hawdd syrthiasan.
7. Parod yw fy nghalon (o Dduw)o parod yw fy nghalon.Canaf yt’ a datcanaf wawdo fawl fy nhafawd cyson.
8. Deffro dafod, a deffro dant,a chân ogoniant beunydd,Nabl a thelyn, eb ado un,deffrof fy hun ar las ddydd.
9. Mawl yt (o Arglwydd) pan ddeffrofa rof ymysg y bobloedd:A chlodfori dy enw a wnâflle amlaf y cenhedloedd.
10. Cans crrhaeddyd y mae dy râshyd yn’nhyrnas y nefoedd:A’th wirionedd di hyd at lenyr wybren, a’i thyrnasoedd.
11. Ymddercha (Dduw) y nef uwchlaw,oddiyno daw d’arwyddion:A bydded dy ogoniant ary ddaiar a’i thrigolion.