Hen Destament

Salm 50:6-15 Salmau Cân 1621 (SC)

6. A phan ddangoso mintai nefei farnau ef yn union,Sef Duw fydd yn barnu ei hun,yr unic gun sydd gyfion.

7. Clyw di fy mhobl, traethaf yn ffraethdystiolaeth yn dy erbyn,Dithau Israel: ac iawn yw,Duw, sef dy Dduw a’th ofyn.

8. Ni chai di am yr ebyrth tau,na’th boeth offrymau gerydd:Nac am na baent hwy gar fy mron,y cyfryw roddion beunydd.

9. Ni chymeraf o’th dy un llo,na hyfr a fo’n dy gorlan,

10. Mi biau’r da’n y maes sy’n gwauar fil o frynniau allan.

11. Pob aderyn erbyn ei ben,a adwen ar y mynydd.Pob da maesydd, y lle y maen,y maent o’m blaen i beunydd.

12. Nid rhaid ym’ ddangos i ti hyn,pe delai newyn arnaf,Ac yn eiddo fi yr holl fyd,a’i dda i gyd yn llownaf.

13. A’i cig y teirw fydd fy mwyd? na thyb:nid wyd ond angall:Ai gwaed hyfrod fydd fy niod?dysg o newydd ddeall.

14. Dod dy oglud ar Dduw yn drwm,a thal yr offrwm pennaf:Cân ei fawl ef: a dod ar ledd’adduned i’r Goruchaf:

15. Galw arnaf yn dy ddydd blin,yno cai fi’n waredydd.Yno y ceni i mi glodam droi y rhod mor ddedwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 50