Hen Destament

Salm 50:19-23 Salmau Cân 1621 (SC)

19. Gollyngaist di dy safn yn rhyddyn efrydd ar ddrygioni:A’th dafod a lithrai ym mhellat ddichell a phob gwegi.

20. Eisteddaist di, dwedaist ar gamar fab dy fam er enllib.

21. Pan wnaethost hyn, ni’th gosbais di,a thybiaist fi’n gyffelib.Ond hwy na hyn tewi ni wnaf,mi a’th geryddaf bellachMi a ddangosaf dy holl ddrwgo flaen dy olwg hayach.

22. Gwrandewch: a pheidiwch tra foch bywa gollwng Duw yn angof:Pan ni bo neb i’ch gwared chwi,rhag ofn i mi eich rhwygo.

23. Yr hwn a ’abertho ’i mi fawlyw’r sawl a’m gogonedda,I’r neb a drefno’i ffordd yn wiwgwir iechyd Duw a ddysgaf.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 50