Hen Destament

Salm 50:14-22 Salmau Cân 1621 (SC)

14. Dod dy oglud ar Dduw yn drwm,a thal yr offrwm pennaf:Cân ei fawl ef: a dod ar ledd’adduned i’r Goruchaf:

15. Galw arnaf yn dy ddydd blin,yno cai fi’n waredydd.Yno y ceni i mi glodam droi y rhod mor ddedwydd.

16. Duw wrth yr enwir dywaid hyn:ai ti perthyn fy neddfau?Paham y cym’ri di, na’m clod,na’m hamod yn dy enau?

17. Sef, cas fu gennyt ti iawn ddysgac addysg ni chymeraist:A’m geiriau i (fel araith ffol)i gyd o’th ol a deflaist.

18. A phan welaist leidr rhedaista rhwydaist ran oddiwrtho:Ac os gordderchwr brwnt af lan,mynnaist ti gyfran gantho.

19. Gollyngaist di dy safn yn rhyddyn efrydd ar ddrygioni:A’th dafod a lithrai ym mhellat ddichell a phob gwegi.

20. Eisteddaist di, dwedaist ar gamar fab dy fam er enllib.

21. Pan wnaethost hyn, ni’th gosbais di,a thybiaist fi’n gyffelib.Ond hwy na hyn tewi ni wnaf,mi a’th geryddaf bellachMi a ddangosaf dy holl ddrwgo flaen dy olwg hayach.

22. Gwrandewch: a pheidiwch tra foch bywa gollwng Duw yn angof:Pan ni bo neb i’ch gwared chwi,rhag ofn i mi eich rhwygo.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 50