1. Duw y duwiau, yr Arglwydd cu,gan lefaru a alwodd,O godiad haul hyd fachlud hwn,yr hollfyd crwn cyffrodd.
2. O fryn Sion y daeth Duw naf,hon sydd berffeithiaf ddinas,Mewn tegwch a goleuni mawr,a llewych gwawr o’i gwmpas.
3. Doed rhagddo’n Duw, na fid fel mud,o’i flaen fflam danllud ysed:A mawr dymestloedd iw gylch ef,pan ddel o nef i wared.
4. Geilw ef am y nefoedd fry,a’r ddaiar obry isom,I gael baru ei bobloedd ef,fal hyn rhydd lef am danom.