12. Ni phery dyn o gnawdol dras,mewn urddas er ei adail,Diau pob dyn, pan ddel ei ddydd,a derfydd fal anifail.
13. Dyma eu ffordd, ffordd ffioledd fydd,na welant ddydd yn passio.Er hyn eu hil a ddel iw’ holfydd yn eu canmol etto.
14. Angeu yw terfyn pob dyn byw,i hwn nid yw ond tamaid:Myned sydd raid o’r ty i’r bedd:yn rhwym un wedd a’r defaid.
15. Daw dydd i’r cyfion dranoeth teg,daw ym’ ychwaneg ystyn:Daw ym’ o’r bedd godiad i fyw,deheulaw Duw a’m derbyn.
16. Er codi o wr mewn parch neu dda,nac ofna di un gronyn:Ei olud ef, na’i barch, na’i dda,i’r bedd nid â iw ddylyn.
17. Hwn tra fu fyw yn rhodio llawr,gwnai’n fawr o hono’i hunan,Gwna honot ti dy hun yn fwy,a hwynt hwy a’th ganmolan.
18. At oes ei dadau hwn pan ddel,â i’r bedd dirgel efrydd.
19. Dyn mewn anrydedd heb ddeall(fal llwdn o wall) a dderfydd.