1. Gwrandewch chwi y bobloedd i gyd,trigolion byd doellwch,
2. Gwerin, tlawd, bonheddig, a chryfcyfoethog hyf ystyriwch.
3. O’m genau daw doethair didwyll,â’m calon pwyll fyfyriaf,
4. A’m clust gwrandawaf ddameg ddwysâ’m llais cerdd fwys a ganaf.
5. Paham yr ofnaf ddrygau’r bydyn amser adfyd atcas?Pan fo anwiredd wedi cau,wrth fy sodlau o’m cwmpas.
6. Mae llawer rhai o wyr y byd,mewn golud a’mddiriedant:A thrwy siarad am werth, a rhiy rhei’ni y rhodresant.
7. Ond ni wareda neb mo’i frawd,ni thâl yn ddidlawd drosto,Ac mi chymer Duw y fâth dâl,nac iawn mor sâl amdano.
8. Sef pryniad enaid dyn drud sydd,a hyn byth gorfydd peidio,
9. Fel y gallo efe fyw byth,heb fynd i nyth yr amdo.
10. Gwelir mai’r bedd yw lletty’r doeth,y ffol ar annoeth unwedd:Marw yw’r naill, a marw yw’r llalli arall gâd ei annedd.