9. Sef merched brenhinoedd yn gwaugyda’ch garesau cywir,O’th du deau’r frenhines doethmewn gwisg aur coeth o Ophir.
10. Clyw hyn, o ferch, a hefyd gwel,ac a chlust isel gwrando:Mae’n rhaid yt ollwng pawb o’th wlâd,a thy dy dâd yn ango’.
11. Yna’i bydd (gan y brenin) wychgael edrych ar dy degwch:Dy Arglwydd yw, gwna iddo foes,i gael i’th oes hyfrydwch.
12. Merched Tirus oedd â rhodd dda:a’r bobloedd appla o olud:A ymrysonent gar dy fron,am roi anrhegion hefyd.
13. Ond merch y brenin, glân o fewn,anrhydedd llawn sydd iddi:A gwisg o aur a gemmau glânoddiallan sydd am dani.