12. Merched Tirus oedd â rhodd dda:a’r bobloedd appla o olud:A ymrysonent gar dy fron,am roi anrhegion hefyd.
13. Ond merch y brenin, glân o fewn,anrhydedd llawn sydd iddi:A gwisg o aur a gemmau glânoddiallan sydd am dani.
14. Mewn gwaith gwe nodwydd y daw honyn wych gar bron ei harglwydd,Ac a’i gwyryfon gyda hidaw attad ti yn ebrwydd.
15. Ac mewn llawenydd mawr a heddac mewn gorfoledd dibrin,Hwyntwy a ddeuant wrth eu gwysi gyd i lys y brenin.
16. Dy feibion yn attegion tauyn lle dy dadau fyddant,Tywysogaethau drwy fawrhâd,yn yr holl wlâd a feddant.
17. Coffâf dy enw di ymhob oes,tra caffwyf einioes ymy:Am hyn y bobloedd a rydd fawl,byth yn dragwyddawl ytty.