4. Ti Dduw, fy mrenin ydwyd: oDuw, pâr i Jago lwyddiant:
5. Lladdwn a sathrwn yn d’enw diy rheini a’n cassaant.
6. Nid yn fy mwa mae fy ngrym,na’m cleddyf llym f’amddiffyn,
7. Ond tydi Dduw, achubaist fi,a rhoist warth fri i’r gelyn.
8. Am hynny molwn di bob dydd,cai yn dragywydd fowredd.Canwn i’th enw gerdd gan dant,o glod a moliant ryfedd.
9. Ond ti a giliaist ymaith beth,daeth arnom feth a gwradwydd:Nid ait ti allan gyd â’u llu,cyfagos fu i dramgwydd.
10. Gwnaethost i nyni droi heb drefn,ein cefn at y gelynion.Felly yr aeth ein da o’n gwladyn sclyfiad i’n caseion.
11. Rhoist ni yn fwyd (fel defaid gwâr)ar wasgar i’r cenhedloedd.