Hen Destament

Salm 44:12-21 Salmau Cân 1621 (SC)

12. A gwerthaist dy bobl ar bris bach,nid hyttrach dy oludoedd.

13. Rhoist ni yn watwar (o Dduw Ion)i’n cymdogion gwrthrym:A diystyrwch oll a gwarthi bawb o bobparth ydym.

14. Dodaist ni yn ddihareb chwithymhlith yr holl genhedloedd,Ac yn arwydd i ysgwyd pen,a choeg gyfatcen pobloedd.

15. Fy ngwarth byth o’m blaen daw yn hawdd,fy chwys a dawdd fy rhagdal,

16. Gan lais gwarth ruddwr, cablwyr câs,a gwaith galanas dial.

17. Er dyfod arnom hynny i gydni throes na’m bryd na’n cofion,Ac ni buom i’th air (o Ner)un amser yn anffyddlon.

18. Ein calon yn ei hol ni throed,ni lithrai’n troed o’th lwybrau:

19. Er ein gyrru i ddreigiaiddgell a’n toi a mantell angau.

20. Os aeth enw ein Duw o’n co,ac estyn dwylo’i arall.

21. Oni wyl Duw y gaugred hon?ein calon mae’n ei deall.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 44