5. Traethu y gwaethaf a wnâi’ nghâsamdanaf, atcas accen:Pa bryd y bydd marw y gwan,a’i enw o dan yr wybren?
6. Os daw i’m hedrych, dywaid ffug,dan gasglu crug iw galon,Ac a’i traetha pan el i ffwrddi gyfwrdd a’i gyfeillion.
7. Fy holl gaseion doent ynghyd,i fradu ’i gyd yn f’erbyn,Ac i ddychmygu i mi ddrwg,a minneu’n ddiddrwg iddynt.
8. Yna dywedent hwy yn rhwydd,tywalldwyd aflwydd arno,Mae ef yn gorwedd yn ei nyth,ni chyfyd byth oddiyno.
9. F’anwyl gyfaill rhwym y’m wrth gred,fy ’mddiried a’m dewisddyn:A fu yn bwyta’ mara erioed,a godai’i draed yn f’erbyn.