Hen Destament

Salm 41:1-9 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Gwyn ei fyd yr ystyriol frawd,a wnel a’r tlawd syberwyd.Yr Arglwydd ystyriol o’r nefa’i ceidw ef rhag drygfyd.

2. Duw a’i ceidw, a byw a fyddyn ddedwydd yn ddaiarol:O na ddyro efo yn rhoddwrth fodd y rhai gelynol.

3. Yn ei wely pan fo yn glafrhydd y Goruchaf iechyd:A Duw a gweiria oddi fryei wely yn ei glefyd.

4. Dywedais innau yna’n rhwydd,dod f’Arglwydd dy drugaredd,Iachâ di’r dolur sy dan fais,lle y pechais mewn anwiredd.

5. Traethu y gwaethaf a wnâi’ nghâsamdanaf, atcas accen:Pa bryd y bydd marw y gwan,a’i enw o dan yr wybren?

6. Os daw i’m hedrych, dywaid ffug,dan gasglu crug iw galon,Ac a’i traetha pan el i ffwrddi gyfwrdd a’i gyfeillion.

7. Fy holl gaseion doent ynghyd,i fradu ’i gyd yn f’erbyn,Ac i ddychmygu i mi ddrwg,a minneu’n ddiddrwg iddynt.

8. Yna dywedent hwy yn rhwydd,tywalldwyd aflwydd arno,Mae ef yn gorwedd yn ei nyth,ni chyfyd byth oddiyno.

9. F’anwyl gyfaill rhwym y’m wrth gred,fy ’mddiried a’m dewisddyn:A fu yn bwyta’ mara erioed,a godai’i draed yn f’erbyn.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 41