Hen Destament

Salm 40:7-14 Salmau Cân 1621 (SC)

7. Y rhai pe y ceisiwn i drwy gred,eu rhoi ar led, a’i canu,Mwy amlach ydynt nag y gallun dyn heb pall eu traethu.

8. Ni fynnaist offrwm rhodd, na gwerth,na chwaith un aberth cennyf:Er hyn fy nghlustiau i mewn pryd,hwy a egoryd ymy.

9. Hyn pan wrthodaist dwedais i,Duw wele fi yn dyfod

10. Megis o honof mae gwir puryn dy ysgrythur hynod.

11. Y rhyngwn i dy fodd yn llawn,(o Dduw) rwy’ ’n fodlawn ddigon,Dy ewyllys di a’th lân ddeddfsy’n greddf yn nautu’r galon.

12. Mi a bregethais dy air cuynghanol llu mawr anian.Ac ni thawaf (fy’ Arglwydd gwyn)ti wyddost hyn dy hunan.

13. Dy iownder, iechyd, a’th air gwirni bum chwaith hir i’w celu,Na’th drugaredd, na’th roddion darhag un gynlleidfa meithlu.

14. Dithau (o Dduw) rhagof na cheldy dawel drugareddau,Dy nawdd a’th wir gosod ar lled,bont byth i’m gwared innau.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 40