15. Dagrau o’m hamgylch fydd uwch rhif,a throso’n llif mae pechod:Amlach ydynt nâ’m gwallt i’m brig,a’m calon ddig sy’n darfod.
16. Tyred (fy Arglwydd) helpa’n rhodd,a rhynged bodd yt’ hynny:Bryssia i’m gwared, na thrig yn hwy,a bydd gynhorthwy ymy.
17. A chyd wradwydder hwynt ar gaisa fyn drwy drais fy nifa:A throer iw hol y rhai y syyn chwennych ymy ddirdra.
18. Bont hwy annedd-wâg yn lle tâly rhai a dyfal dafodEr gwradwydd ym’ a ddwedant hyn,ffei, ffei, ar destyn dannod.
19. Y rhai a’th geisiant di bob prydbont lawen hyfryd hylwydd:A dweded a’th gâr di (Dduw ner)mawryger enw’r Arglwydd.
20. Cofia (o Dduw) fy mod yn wan,ac yn druan, a dyred,(O Dduw fy nerth) na thrig yn hir,dyrd rhag y dir i’m gwared.