Hen Destament

Salm 39:5-14 Salmau Cân 1621 (SC)

5. O dangos ym’ (fy Arglwydd ner)pa amser y diweddafRifedi ’nyddiau: a pha hydo fewn y byd y byddaf.

6. Rhoddaist fy nyddiau fel lled llaw,i’m heinioes daw byr ddiwedd.Diau yn d’ olwg di (o Dduw)fod pob dyn byw yn wagedd.

7. Sef mewn cysgod y rhodia gwr,dan gasglu pentwr ofer,Odid a wyr wrth dyrru dapwy a’i mwynha mewn amser.

8. Beth bellach a obeithiaf fi,Duw rhois i ti fy nghalon.

9. Tyn fi o’m camweddau yn rhydd,nâd fi’n wradwydd i ffolion.

10. Yn fudan gwael yr aethym i,a hyn tydi a’i parodd:

11. O tyn dy gosp oddiwrthif swrn,sef pwys dy ddwrn a’m briwodd.

12. Pan gosbech di am bechod wrfo wywa’n siwr ei fowredd,Fel y gwyfyn: gwelwch wrth hynnad yw pob dyn ond gwagedd.

13. Clyw fy ngweddi o Dduw o’r nef,a’m llef: a gwyl fy nagrauDy wâs caeth wyf (o clyw fy mloedd)ac felly ’roedd fy nheidiau.

14. O paid a mi gad ym gryfhau,cyn darfod dyddiau ’mywyd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 39