Hen Destament

Salm 38:11-22 Salmau Cân 1621 (SC)

11. Cyfnesaf, cyfaill, câr, nid gwell,hwy aent ym mhell i’m hadfyd.

12. A’m caseion i yn nessau,a’i maglau ffug a’i dichell,Safai fy ngheraint i yn synn,i edrych hyn o hirbell.

13. Minnau fel dyn byddar a awnmegis pe bawn heb glywed:Neu fel y mudan (dan dristau)heb enau yn egored.

14. Yn fud fel hyn y gwn fy mod,fel un a thafod efrydd:Neb ddwedyd unwaith air o’m pen,i dalu sen a cherydd.

15. Gan ym’ gredu i ti yn rhwydd,o Arglwydd Dduw goruchaf,Rhwydd a hysbys iawn gennif fiyw y gwrandewi arnaf.

16. Mi a ddymunais arnat hyn,rhag bod i’m gelyn wowdio,O lithrai fy nrhoed ronyn bach,fo fydd llawenach gantho.

17. Cloffi yn barod rwyf yn wir,a dolur hir sy’n poeni:

18. Addef yr wyf mai iawn ym’ fod,fy mhechod sy’n ei beri.

19. A’m gelynion i sydd yn fywyn aml ei rhyw, a chryfion:Sydd yn dwyn câs i mi ar gam,sef am fy mod yn gyfion.

20. Y rhai a dalant ddrwg dros ddaa’m gwrthwyneba’n efrydd:A hyn am ddylyn honof iy pur ddaioni beunydd.

21. Duw, nac ymâd, na fydd ym’mhell,pen ddelo dichell ffyrnig,

22. Brysia, cymorth fi yn y byd,fy Nuw, a’m iechyd unig.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 38