Hen Destament

Salm 38:1-16 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Fy Arglwydd, na cherydda fi,ym mhoethni dy gynddaredd:Ac na chosba fi yn dy lidoblegid fy enwiredd.

2. Cans glyn dy saethau ynof fi,a phennau’r rheini’n llymion:A dodaist arnaf y llaw dau,a rhoist ddyrnodiau trymion.

3. Nid oes mo’r iechyd gan dy lid,i’m cnawd, ond gofid creulon:Ac nid oes (gan fy mhechod chwyrn)mor hedd i’m hesgyrn sychion.

4. Cans fy nghamweddau aent i’r nen,a thros fy mhen tyfasant:Un wedd a baich rhy drwm o bwysfal hyn mor ddwys i’m llethant.

5. Fy nglheisiau sydd fal yn bwdr dduyn llygru gan f’ynfydrwydd:

6. Crymais, a phellais beth bob dydd,sef galar sydd ac aflwydd.

7. Cans mae fy llwynau’n llawn o wres,a’m cnawd heb les nac iechyd.

8. Llesg wan ac ysig, yw fy mron,lle gwaedda calon nychlyd.

9. Clyw Arglwydd fi, herwydd o’th flaenyn hollawl mae ’nymuniad,Ni chuddiwyd mo’m ochenaid i,oddiwrthit di fy ngheidwad.

10. Llamma ’nghalon, palla fy nerth,a’m golwg prydferth hefyd,

11. Cyfnesaf, cyfaill, câr, nid gwell,hwy aent ym mhell i’m hadfyd.

12. A’m caseion i yn nessau,a’i maglau ffug a’i dichell,Safai fy ngheraint i yn synn,i edrych hyn o hirbell.

13. Minnau fel dyn byddar a awnmegis pe bawn heb glywed:Neu fel y mudan (dan dristau)heb enau yn egored.

14. Yn fud fel hyn y gwn fy mod,fel un a thafod efrydd:Neb ddwedyd unwaith air o’m pen,i dalu sen a cherydd.

15. Gan ym’ gredu i ti yn rhwydd,o Arglwydd Dduw goruchaf,Rhwydd a hysbys iawn gennif fiyw y gwrandewi arnaf.

16. Mi a ddymunais arnat hyn,rhag bod i’m gelyn wowdio,O lithrai fy nrhoed ronyn bach,fo fydd llawenach gantho.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 38