Hen Destament

Salm 37:4-20 Salmau Cân 1621 (SC)

4. Bydd di gysurus yn dy Dduw,di a gei bob gwiw ddymuniad:

5. Dy ffyrdd cred iddo, yn ddilysfe rydd d’ewyllys attad.

6. Cred yntho ef, fo’th ddwg i’r lann,myn allan dy gyfiownder:Mor olau a’r haul hanner dydd,fal hynny bydd d’eglurder.

7. Ymddiried i Dduw, disgwyl, taw,a heb ymddigiaw gronyn:Er llwyddo’i ddrygddyn ei fawr fai,yr hwn a wnai yn gyndyn.

8. Paid â’th ddig, na ofidia chwaith:gad ymaith wyllt gynddaredd:Rhag i hynny dyfu i fod,yn bechod yn y diwedd.

9. Oherwydd hyn, disgwyl yr Ion,gwyl ddiwedd dynion diffaith:A disgwyl ef: meddianna’r tir,a’r drwg f’oi torrir ymaith.

10. Goddef y drygddyn dros dro bâch,ni welir mwyach honaw,Ti a gai weled y lle y bu,heb ddim yn ffynnu ganthaw.

11. Ond y rhai ufydd a hawddgâr,y ddaiar a feddiannant:Ar rhei’ni a thagnhefedd hir,diddenir yn eu meddiant.

12. Bwriada’r drygddyn o’i chwerw ddaint,ar ddrygu braint cyfiownddyn:

13. Duw yn ei watwar yntau a fydd,sy’n gweled dydd ei derfyn:

14. Ynnylu bwa, tynnu cledd,yw trowsedd yr annuwiol,Er llâdd y truan: fel dydd brawd,i’r tlawd a’r defosionol.

15. Ei fwa torrir yn ddellt mân,a’i gledd a â’n ei galon:

16. Mawr yw golud yr ysceler,ond gwell prinder y cyfion.

17. Yr Arglwydd a farn bob rhyw fai,tyr freichiau’r rhai annuwiol,Ac ef a gynnail yn ddi ddig,y cyfion, ystig, gweddol.

18. Sef ef edwyn Duw ddyddiau,a gwaith pob rhai o berffaith helynt:Ac yn dragywydd Duw a wnaeth,deg etifeddiaeth iddynt.

19. Efe a’i ceidw hwynt i gyd,na chânt ar ddrygfyd wradwydd:Amser newyn hwyntwy a gânt,o borthiant ddigonolrwydd.

20. Y rhai traws enwir, heb ddim cwyn,fel brasder wyn a doddant:Caseion Duw fydd dynion drwg,hwy gyda’r mwg diflannant.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 37