Hen Destament

Salm 37:25-39 Salmau Cân 1621 (SC)

25. Aethym i bellach yn wr hen,bum fachgen ’rwy’n cydnabod:Ni welais adu hâd gwr da,na cheisio’i bara ’ngherdod.

26. Echwyn a benthyg cair bob dydd,trugarog fydd y cyfion:A'i hâd ef drwy y nefol wlith,a gaiff o’i fendith ddigon.

27. Arswyda ddrwg, a gwna di dda,a chyfanedda rhag llaw:

28. Cans Duw a gâr y farn ddidwn,ninnau a roddwn arnaw.Nid ymedy efe â’i Saint,ceidw heb haint y rhei’ni:Ond hâd yr annuwiolion gaua ddont i angau difri.

29. Y ddaear caiff y cyfion gwyl,lle y preswyl byth mewn iawndeb:

30. A’i enau mynaig wybodaeth,a’i dafod traeth ’ddoethineb.

31. Deddf ei Dduw y sydd yn ei fron,a’i draed (gan hon) ni lithrant:

32. Dyn drwg a ddisgwyl lâdd y da,ond ni chaiff yna ffyniant.

33. Ni âd yr Arglwydd (er ei gais,nac er ei falais lidiog:)Y gwirion yn ei waedlyd law,i hwn ni ddaw barn euog.

34. Gobeithia yn yr Arglwydd tau,a chadw ei llwybrau’n gywir:Cei feddiannu, cei uwch o radd,a gweled lladd yr enwir.

35. Gwelais enwir yn llym ei big,a’i frig fel gwyrddbren lawri:

36. Chwilais, a cheifiais yr ail tro,’r oedd efo wedi colli.

37. Ystyria hefyd y gwr pur,ac edrych du’r cyfiownedd:Di a gei weled cyfryw ddyn,ma’i derfyn sydd tangnhefedd.

38. A gwyl y rhai drwy drais sy’n byw,ynghyd i ddistryw cwympant:Fe a ddiwreiddir plant y fall,i ddiwedd gwall, a methiant.

39. Iechyd y cyfion sy o Dduw Ner,a’i nerth mewn amser cyffro:

Darllenwch bennod gyflawn Salm 37