Hen Destament

Salm 37:1-13 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Na ddala ddrygdyb yn dy ben,nac o gynfigen ronyn,Er llwyddo’r enwir, a wnai gam:cai weled llam yn canlyn.

2. Sef hwy a dorrir fel gwellt glâs,neu lysiau diflas gwywon:A hwy a grinant yn ddilwydd,a hynny’n ebrwydd ddigon.

3. Cred yn yr Arglwydd, a gwna dda,gobeithia yr hyn gorau:Bydd ymarhous yn y tir,di a borthir yn ddiau.

4. Bydd di gysurus yn dy Dduw,di a gei bob gwiw ddymuniad:

5. Dy ffyrdd cred iddo, yn ddilysfe rydd d’ewyllys attad.

6. Cred yntho ef, fo’th ddwg i’r lann,myn allan dy gyfiownder:Mor olau a’r haul hanner dydd,fal hynny bydd d’eglurder.

7. Ymddiried i Dduw, disgwyl, taw,a heb ymddigiaw gronyn:Er llwyddo’i ddrygddyn ei fawr fai,yr hwn a wnai yn gyndyn.

8. Paid â’th ddig, na ofidia chwaith:gad ymaith wyllt gynddaredd:Rhag i hynny dyfu i fod,yn bechod yn y diwedd.

9. Oherwydd hyn, disgwyl yr Ion,gwyl ddiwedd dynion diffaith:A disgwyl ef: meddianna’r tir,a’r drwg f’oi torrir ymaith.

10. Goddef y drygddyn dros dro bâch,ni welir mwyach honaw,Ti a gai weled y lle y bu,heb ddim yn ffynnu ganthaw.

11. Ond y rhai ufydd a hawddgâr,y ddaiar a feddiannant:Ar rhei’ni a thagnhefedd hir,diddenir yn eu meddiant.

12. Bwriada’r drygddyn o’i chwerw ddaint,ar ddrygu braint cyfiownddyn:

13. Duw yn ei watwar yntau a fydd,sy’n gweled dydd ei derfyn:

Darllenwch bennod gyflawn Salm 37