9. Eithr am fy enaid i (Amen)bid llawen yn yr Arglwydd:Fe a fydd hyfryd gantho hyn,lle daw i’r gelyn aflwydd.
10. O Arglwydd dywaid f’esgyrn i,pwy sydd a thi un gyflwr?Rhag ei drech yn gwared y gwan,a’r truan rhag ei ’speiliwr.
11. Tystion gau a godent yn llym,a holent ym’ beth anfad:
12. Drwg ym’ dros dda talent heb raid,a’m henaid braint ymddifad.
13. Ond fi, tra fyddent hwy yn glaf,rhown i’m nesaf liein-sach:Drwy hir ymostwng ac ympryd,cymrais fy myd yn bruddach,Yr un dosturiol weddi fau,a ddaeth o’m genau allan,A droes eilwaith (er fy lles)i’m mynwes i fy hunan.