1. Pleidia (o Arglwydd) yn fy hawl,â’r sawl a dery’n ferbyn:Lle’r ymrysonant â myfi,ymwana di â’r gelyn.
2. Mae dy gymorth: o moes ei gael,ymafael yn y tarian:O cyfod cais dy astalch gron,a dwg dy waywffon allan.
3. Argaua ar y rhai sy ar gam,i’m herlid am fy mywyd:Wrth fy enaid, dywaid fel hyn,fy fi a fynn yt’ iechyd.
4. Gwarth, a gwradwydd a fo i bob gradd,a geisio ladd fy enaid:A thrwy gywilydd troed iw holy ffals niweidiol gablaid.
5. Fel yr us o flaen gwynt y bon’:Angel yr Ion i’w chwalu:
6. A rhyd ffordd dywyll lithrig lefn,a hwn wrth gefn iw gyrru.
7. Cloddio pwll, a chuddio y rhwyd,a wnaethbwyd ym heb achos:Heb achlysur, maglau a wnaidi’m henaid yn y cyfnos.
8. O deued, cwymped yn ei rwyd,yr hon a guddiwd allan:Syrthied a glyned iw delm rwyll,a’i drapp o’i dwyll ei hunan.