Hen Destament

Salm 33:3-13 Salmau Cân 1621 (SC)

3. Cenwch i’r Ion fawl a mawrhâd,wiw gerdd o ganiad newydd:Cenwch iddo yn llafar glod,bid parod eich lleferydd.

4. Am mai union ydyw ei air,ffyddlon y cair ei weithred.

5. Cyfiownder a barn ef a’i câr,a’r ddaiar llawn o’i nodded.

6. Gair yr Arglwydd a wnaeth y nef,a’i Yspryd ef eu lluoedd:

7. Casclai efe ynghyd y mor,a’i drysor yw’r dyfnderoedd.

8. Yr holl ddaiar ofned ein Duw,a phob dyn byw a’i preswyl:

9. Ei arch a saif, a’i air a fydd,a hynny sydd i’w ddisgwyl.

10. Ef a ddirymmodd, (fy Nuw Ior)holl gyngor y cenhedloedd:A thrwy lysiant gwnai yn ddi rym,amcanion llym y bobloedd.

11. Ond ei gyngor ef oddi fry,a bery’n dragwyddoliaeth:A'i galonfryd efe ei hun,uwch para un genhedlaeth.

12. A phob cenhedloedd, dedwydd ynt,os Duw iddynt sydd Arglwydd:A'i etholion, efe a’i gwnaethyn etifeddiaeth hylwydd.

13. O’r nefoedd fry yr edrych Duw,ar llwybrau pob rhyw ddynion,Ac o’i breswylfa edrych ar,y ddaiar a’i thrigolion.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 33